SL(5)301 – Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019
Cefndir a Phwrpas
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/421 (Cy. 89)).
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, os yw’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, yn rhinwedd adran 20(3) mae’n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
Yn rhinwedd adran 20(6), ystyr “tanwydd awdurdodedig” yw tanwydd y datganwyd drwy reoliadau ei fod wedi ei awdurdodi. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993.
Gweithdrefn
Negyddol
Craffu Technegol
Nodwyd y pwynt canlynol i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(vii) (gwahaniaethau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg) mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ym mharagraff 71(c) o’r Atodlen, mae’r testun Cymraeg yn pennu maint o “rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau o hyd”. Mae’r testun Saesneg cyfatebol yn pennu ystod o 30-130 o filimetrau.
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Ystyriaeth y Pwyllgor
Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 28 Ionawr 2019, a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â’r pwynt technegol a nodir uchod.